Hwn, llall ac arall
DWEUD EI DDWEUD - 05
Mainc bren Bertiw Waldron
Yn blygeiniol wythnos d’wethaf mi es i â’r car i gael prawf MOT. A’r trefniant oedd bod Meira fy ngwraig am ddod i nghasglu i o’r garej. Tra’n aros iddi gyrraedd, felly, mi gerddais i i gyfeiriad y gyffordd lle mae’r ffordd o Waelod-y-Garth yn ymuno â’r ffordd brysur o Bentyrch a Chreigiau. Ac am olygfa welwn i! – ceir a lorïau a bysiau wrth benolau’i gilydd, a’u gyrrwyr â’u hwynebau’n llawn cynddaredd; dim gwên ar un wep dim ond rhyw deimlad o felancôlia cyffredinol a diflastod llwyr o’u sylweddoliad fod pob copa walltog a heb ddim gwallt ohonynt yn mynd i fod yn hwyr i’r gwaith y bore hwnnw.
Ac yna dros y ffordd ynghanol s?n byddarol eu canu cyrn mileinig mi welais i fainc bren gyda’i chefn at y traffic a’r gyffordd – ac mi o’dd hi’n gwahôdd. Draw a fi, felly i gael ‘sit down’ bach amyneddgar oherwydd roedd hi’n amlwg i mi fod Meira, hefyd, wedi ei dal rhywle yn yr un traffic-jam. Ac wrth groesi at y fainc mi sylwais i fod arysgrifen (inscription) arni, ‘Dedicated with love to Bertie Waldron, May 1919 – Feb 1988’. Ac wrth roi fy mhen ôl i orffwyso’n ddiolchgar ar y fainc, ro’n i’n ceisio dyfalu pwy tybed oedd y Bertie Waldron yma yr oedd rhywun wedi ei garu cymaint nes cysegru’r fainc bren hon er coffa amdano?
A dyna pryd sylwais i fod toriad yn y gwrych yn union o flaen y fainc, oedd yn caniatáu i mi weld ehangder a gwychder cynnil mynydd Caerffili o mlaen a’r awyr yn las uwchben a’r haul yn chwarae mîg tu ôl i gymylau o wlân cotwm, ac fel pe’n wincian arna i. Yna, i’r chwith ohona i gwelwn fynydd y Garth yn ffroenuchel, ac yn datgan yn ewn ei hawl oesol i fod yna. Ac i’r dde ohona i, chwarel Pentyrch o dan goedwig o wyrddni sy’n gwneud ein Cymru fach y ffasiwn sioe ag ydi hi ‘radeg hon o’r flwyddyn. Ac yno ar y fainc, ynghanol Gehenna’r gyffordd am chwarter i naw y bore, mi brofais i eiliadau o dawelwch ac o dangnefedd anghyffredin.
Ac yna cofiais eiriau fy Nhad ‘stalwm: “Dim ots pa mor ddrwg, pa mor anobeithiol ydi dy amgylchiada’ di Jac-y-Do – os edrychi di’n ddigon hir fe ddoi di o hyd i rywbeth cadarnhaol yn llechu yna yn rhywle dan yr wyneb. Ac unwaith fyddi di wedi dod o hyd i’r un peth cadarnhaol hwnnw: mi fyddi di’n peidio byw yn y broblem; mi fyddi di’n byw yn yr atebiad i’r broblem, yn y datrysiad, wel-di.”
Felly, beth amdani’r wythnos hon? Beth am weld y gorau mewn dynoliaeth; y rhagorol ymhob amgylchiad a sefyllfa – ia, mae o yna – chwiliwch amdano; a beth am helpu’n gilydd i werthfawrogi’r hyn yda ni; ac, yn arbennig yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol fel hyn, beth am ddathlu ein cenedligrwydd? – a’r ffaith ein bod ni oll yn amhrisiadwy ac yn geniuses – oherwydd ‘da ni gyd yn unigryw ac â chyfraniad unigryw i wneud i glytwaith cyfoethog bywyd - gan gynnwys (ac yn arbennig) Aled Jones Williams a’r ddrama Iesu berfformir gynta’ heno.
Mewn diwylliant sy’n dueddol o ddilorni popeth da, ac sy’n sôn am ddim byd arall ond y gwael a’r gwaethaf am ddyn a sefydliad am lywodraeth a byd – ac ambell ddrama, mae cael mainc fel mainc Bertie Waldron, yn anhepgorol dybiwn i. Mae ein iechyd meddwl yn dibynnu ar y peth – mae o mor bwysig â hynny.
Asgob a Raslas bob yn ail! fel basa Syr Wynff Ap Concord y Bos yn arfer ei ddweud ‘stalwm, mainc fel mainc bren Bertie Waldron amdani felly - a ‘falla wedyn y medrwn ni oll amlygu yn ein plith yr agwedd meddwl honno sydd, yn wir, yn eiddo i ni yng Nghrist Iesu.
Wynford Ellis Owen
Cyfranwch, os gwelwch yn dda, i ”bethau ysbrydol” a’n helpu i ‘brofi’r pethau rhyfeddol hynny’ drwy glicio ar y ddolen hon.
|