Hwn, llall ac arall
DWEUD EI DDWEUD - 12
Deuparth gwaith...
Rhywun yn anfon y canlynol imi ar y we, a finna’n sylweddoli â dychryn mod inna’n diodda o’r un aflwydd, gwaetha’r modd, sef DCOO – Diffyg Canolbwyntio Oherwydd Oedran. (Di Ec O O)
Fel hyn mae o’n amlygu’i hun: Dwi’n penderfynu dyfrio’r ardd. Wrth i mi droi’r tap ymlaen ar ochr y tþ, dwi’n edrych draw at y car a phenderfynu bod hwnnw angen ei olchi.
Wrth imi gerdded i gyfeiriad y garej, dwi’n sylwi bod y postman wedi bod – mae yna lwyth o filiau a geriach yn gorwadd ar y mat ger y drws ffrynt. Dwi’n penderfynu gweld be’ sydd yn y post gynta cyn golchi’r car.
Dwi’n rhoi goriada’r car ar y bwrdd, rhoi’r jync–mail, y geriach bondigrybwyll, yn y bin sbwriel - a dwi’n sylwi bod y bin yn llawn!
Felly, dwi’n penderfynu rhoi’r biliau nôl ar y bwrdd a gwagio’r bin. Ond yna dwi’n meddwl, ‘Wel, gan mod i’n mynd allan i wagio’r bin sbwriel, beth bynnag, waeth imi dalu’r biliau’n gynta’ ddim, a’u postio run pryd.’
Dwi’n cymryd fy llyfr sieciau oddi ar y bwrdd, a gweld mai dim ond un siec sy’n weddill ynddo. Ac och a gwae! Mae fy llyfr sieciau newydd yn fy nesg yn y stydi yn y llofft. Felly dwi’n penderfynu mynd i’r llofft i chwilota drwy’r ddesg.
Ar hynny, mae fâs o floda’ yn dal fy sylw – mae’r blodau angen dðr.
Dwi’n rhoi’r llyfr siec i lawr ar fwrdd y lobi, dychwelyd i’r gegin i lenwi’r can dðr ac yna’n sydyn - dwi’n gweld remote-contrôl coll y set deledu. Rhywun yn amlwg wedi’i adael ar fwrdd y gegin!
Dwi’n sylweddoli, heno, pan fyddwn ni eisiau gwylio’r teledu, y byddai’n edrych am y teclyn yma, ac mi fyddai wedi anghofio ei fod o ar fwrdd y gegin, felly dwi’n penderfynu’i roi o yn y parlwr lle mae o i fod. Ond yn gynta mi ro i ddðr i’r blodau.
Dwi’n tollti ychydig o ddðr i’r pot blodau, ond mae’r rhan fwyaf ohono yn colli ar y llawr. Felly, dwi’n rhoi’r remote-contrôl yn ôl i lawr ar fwrdd y gegin, estyn am dowelion a mopio’r dðr.
Yna, dwi’n mynd lawr y lobi i gyfeiriad y drws ffrynt - gan drio cofio be ar wynab y ddaear dwi ‘di neud hefo’n sbectol ddarllan i.
Ar ddiwedd y dydd:
mae’r car heb ei olchi,
y biliau heb eu talu,
mae’r blodau yn dal heb ddigon o ddðr,
dim ond un siec sydd yn fy llyfr sieciau o hyd,
fedrai ddim dod o hyd i’r remote-contrôl,
wn i ddim lle ar wynab y ddaear mae fy sbectol ddarllen i ‘di mynd,
a fedrai ddim cofio beth wnes i hefo goriadau’r car.
Yna, pan fyddai’n trio dyfalu pam mod i heb gyflawni dim heddiw, dwi mewn tipyn o benbleth – oherwydd dwi’n gwbod mod i wedi bod yn brysur drwy’r dydd, wedi’r cyfan, dwi wedi ymlâdd – wir yr.
Erbyn hyn, dwi’n sylweddoli fod gen i broblem ddifrifol iawn, a dwi’n bwriadu ca’l help tuag ato - o yndw! Ond yn gynta’ dwi’n meddwl y basai’n well imi tsiecio i weld os o’s gen i e-bost.
Ia, gwir yr adnod: Rhyfedd ac ofnadwy y’n gwnaed!
Wynford Ellis Owen
Cyfranwch, os gwelwch yn dda, i ”bethau ysbrydol” a’n helpu i ‘brofi’r pethau rhyfeddol hynny’ drwy glicio ar y ddolen hon.
|