Rhai llythyrau a yrrwyd ar ran y Cyngor i'r wasg
Pam nad oes neb yn ateb y cwestiwn sylfaenol?
Pan mae g?r ifanc yn meddwi cyn mynd i barti mae o, yn y bôn, yn trefnu pethau fel bod dim rhaid iddo fod yn fo’i hun yn y parti. Y cwestiwn perthnasol, felly, fel mae Rollo May y seicotherapydd blaenllaw yn ei ofyn yw ‘nid pam ei fod yn yfed cymaint? Yn hytrach, pam ei fod o’n teimlo rheidrwydd i ddianc rhag ei hunan?’
Tra’n croesawu mesurau arfaethedig llywodraeth Holyrood fel ymdrech fechan at geisio delio gyda phroblemau cynyddol camddefyddio alcohol yn yr Alban, nid ydynt yn ateb o gwbl y cwestiwn hwn. Na chwaith wna unrhyw fesuriadau arfaethedig imi glywed amdanynt o du Westminster, Bae Caerdydd a Stormont. Yn yr un modd, mae eglwysi ac addysgwyr, fel ei gilydd, yn osgoi ateb y cwestiwn sylfaenol hwn sydd, rwy’n credu, wrth wraidd y broblem gynyddol o gamddefnyddio alcohol yn ein cymdeithas heddiw. Felly, pwy sy’n gwybod yr ateb – oherwydd mae’n amlwg nad yw’r rhai a enwyd eisoes?
Beth am ofyn i’r rhai hynny sydd “wedi bod yna” ag sydd nawr wedi gwella o’r cyflwr ffiaidd hwn: yr alcoholigion sobr? Dywedant wrthych nad oedd ganddo ddim byd o gwbl i’w wneud ag alcohol. Yr oedd i’w wneud â’u hanallu i ymdopi â realiti eu hunigrwydd a’u synwyr o arwahanrwydd oddi wrth eraill. Yn awr, fedrwch chi weld pam nad yw’r cwestiwn yn cael ei ateb? I wneud hynny fyddai i orfod wynebu’n benben y baich o fod yn ddynol. Ac nid oes neb sy’n dymuno gwneud hynny – onibai, wrth gwrs, eich bod yn gorfod gwneud hynny i aros yn sobr.
1. Parthed llythyr Chris Dafis - Golwg
2. Pam nad oes neb yn ateb y cwestiwn syfaenol?
3. Trachwant a chamddefnydd alcohol yn gyfuniad marwol
4. Camddefnydd Alcohol
5
. Alcoholiaeth - y salwch teuluol
6. Llythyr i'r Cymro - 18fed Awst
7. Llythyr Madog Mwyn - Hydref 2009
|