Rhai llythyrau a yrrwyd ar ran y Cyngor i'r wasg
Camddefnydd Alcohol
Mae Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill yn condemnio ymddygiad anghyfrifol y rheolwr clwb Steve Dew am hyrwyddo 5 awr o yfed gymaint ag y gallwch am £5 yn ei glwb yr Escapade yng Nghasnewydd (WM, Hyd 29.). Mae camddefnyddio alcohol o bryder mawr ar hyn o bryd ac mae’r problemau cymdeithasol sy’n codi yn effeithio ar gymdeithas yn gyffredinol. Amcangyfrifir bod mwy na chwarter plant Cymru wedi bod yn feddw o leiaf ddwywaith erbyn eu bod nhw’n 13; a bod pobol ifanc rhwng 11 ac 15 yn defnyddio alcohol mwy na phobol ifanc mewn unrhyw wlad yn Ewrop o fewn yr un grwp oedran. Yn ychwanegol, amcangyfrifir. y gall fod cymaint â 65,000 o blant a phobol ifanc yng Nghymru sy’n cael eu heffeithio gan broblemau alcohol eu rhieni. Mae 1,100 o bobol yn marw bob blwyddyn yng Nghymru o salwch sy’n ymwneud ag alcohol. Mae ymddygiad y deiliwr trwydded proffesiynol hwn i hyrwyddo busnes da llewyrchus yn druenus i’r eithaf ac yn anfaddeuol. Bydd gen i ddiddordeb gweld a fydd y diwydiant yfed yn ymuno â mi yn condemnio eu cyd-weithiwr sy wedi croesi llinell goch denau yr hyn sy’n dderbyniol. Neu a fydd eu methiant i gondemnio’i weithredoedd yn brawf pellach bod y diwydiant yfed yn methu hunan-reoleiddio?
1. Parthed llythyr Chris Dafis - Golwg
2. Pam nad oes neb yn ateb y cwestiwn syfaenol?
3. Trachwant a chamddefnydd alcohol yn gyfuniad marwol
4. Camddefnydd Alcohol
5
. Alcoholiaeth - y salwch teuluol
6. Llythyr i'r Cymro - 18fed Awst
7. Llythyr Madog Mwyn - Hydref 2009 |