Rhai llythyrau a yrrwyd ar ran y Cyngor i'r wasg
LlythyrMadog Mwyn - Hydref 2009
O ble ar wyneb y ddaear mae Madog Mwyn wedi cael y syniad fy mod i, o bawb, yn “pregethu dirwest”? (Y Cymro, 9fed Hydref.) Pe bai ond wedi darllen fy hunangofiant Raslas bach a mawr! byddai wedi gweld yn syth pa mor chwerthinllyd ydi’r syniad.
Efallai fy mod i’n “pregethu” yn erbyn y gorddefnydd o alcohol yn ein cymdeithas – ond peth arall yw hynny. Un peth sy’n sicr, nid “pregethu dirwest” mohono. Yn wir, does gen i ddim byd yn erbyn alcohol cyn belled a’i fod yn cael ei drin yn gyfrifol - oherwydd mae’n wenwyn; ac mae’n rhaid trin pob gwenwyn gyda gofal. Coman sens ydi hynny.
Sut bynnag, rydw i yn “pregethu”, chwedl yntau, yn erbyn cyflwyno alcohol, y pumed lladdwr mwyaf yn y byd, i faes Eisteddfod yr Urdd - eisteddfod sydd i fod ar gyfer plant a phobl ifanc – gan fudiad sydd i fod i roi lles plant a phobl ifanc o flaen popeth arall.
Nid “pregethu dirwest” mo hynny chwaith, Madog, ond pregethu coman sense eto, dybiwn i, fel mae miloedd o gefnogwyr ffyddlon yr Urdd led led Cymru yn cytuno am y rheswm nad yw Plant ag Alcohol yn cymysgu.
Ategaf felly eiriau olaf eich llith dirmygus yn Y Cymro yr wythnos diwethaf, ac y dylem yn wir “roi gair o weddi dros goman sens yn holl bennod yr alcohol yng Ngheredigion”.
Wynford Ellis Owen
1. Parthed llythyr Chris Dafis - Golwg
2. Pam nad oes neb yn ateb y cwestiwn syfaenol?
3. Trachwant a chamddefnydd alcohol yn gyfuniad marwol
4. Camddefnydd Alcohol
5
. Alcoholiaeth - y salwch teuluol
6. Llythyr i'r Cymro - 18fed Awst
7. Llythyr Madog Mwyn - Hydref 2009 |