|
 |
Ein storïau
Stori Cefin
Am bron i ddwy flynedd a hanner dwi wedi bod yn byw bywyd sobor, bywyd yn rhydd o afael alcohol a’r problemau cysylltiedig. Ar ddydd Sul o haf yng Nghorffennaf 2006 yng nghanol hangofyr, derbyniais mod i wedi cael digon o alcohol a’i effaith arnaf a mod i’n methu rheoli fy yfed unwaith imi gael y ddiod gynta’. Er gwaetha’ hyn, fe es i i siop y gornel a phrynu 4 can o lager cryf er mwyn lleddfu’r adwaith seicolegol anioddefol i’r binj penwythnos diweddaraf. Dyna’r alcohol diwethaf i basio ‘ngwefusau ac rwy’n diolch i Dduw yn ddyddiol am fy helpu i gadw draw o’r ddiod ers hynny.
O ‘ngho’ cyntaf, dwi i wastad wedi caru/casau alcohol. Ar yr un llaw, dyma’r hylif hud. Ro’n i’n caru’r blas, lliw aur y cwrw oer, swn poteli’n agor a gwydrau’n llenwi. Yn bennaf, fodd bynnag, ro’n i’n caru’r effaith gychwynnol. Roedd yn fy nhrawsnewid, yn mynd a fi ar siwrne, yn fy nhroi’n rhywun ro’n i eisiau bod, neu o leia’n dileu dros dro yr hyn nad o’n i’n ei hoffi. Galluogodd fi i fod yn hyderus, doniol, heriol a phryfoclyd, i fod yn gyfeillgar, difyrru a siarad gyda merched. Dyma ‘mhasbort i’r “fi” ro’n i eisiau bod. Do’n i ddim mwyach yn berson anneniadol, swil, lletchwith, ro’n i’n bartiwr ffraeth heb ofal yn y byd ! Ac eto, ro’n i’n gwybod o’r cychwyn bod yr hylif hud yn medru brathu. Er nad oeddwn prin yn mynd yn sal na’n mynd yn anymwybodol yn y dyddiau cynnar, ro’n i’n ymddwyn mewn ffyrdd y byddwn yn eu difaru y diwrnod wedyn. Does dim un noson allan, dim un parti, gwyliau, dathliad nac unrhyw digwyddiad gydag alcohol sy’ heb y teimlad hwnnw o euogrwydd, cywilydd, edifar neu embaras. Gyda pwy wnes i ddadlau ? Beth dd’wedais i wrtho ef/hi ? Wnes i ffwl ohonof fy hun ac, wrthgwrs, gyda phwy wnes i drio, neu lwyddo, i dreulio’r noson a hi ? Roedd yr hangofyrs yn ymosodiadau emosiynol o euogrwydd a phoen, gydag ymddiheuriadau poenus, a’r boen ofnadwy o wybodaeth euog na ellid mo’i rhannu. Dros y blynyddoedd, datblygais i fod yn isel fy ysbryd, dirmygus, dig, cenfigennus, chwerw a thrist. Roedd y byd i gyd yn anghywir ac roedd ei wynebu heb ddiod yn syniad erchyll.
Er nad oeddwn yn yfed bob dydd, ac yn medru mynd heb ddiod am gyfnod o amser, unwaith y byddwn i’n agor potel neu gan, byddwn i’n ei yfed i gyd. Byddai’r cwrw hud yn troi fy ngwg yn wen, fy mhesimistiaeth yn optimistiaeth a diwrnod gwael yn ddiwrnod da. Fawr o syndod felly mod i’n ceisio’r effeithiau hyn yn fwy aml a mwy cyson gyda’r binjio’n amlhau. Am hanner yr wythnos ro’n i’n sobor ac yn gweithio ; yr hanner arall – y penwythnos oedd yn cychwyn ar ddydd Iau erbyn diwedd fy nyddiau yfed, ac yn gorffen ar fore dydd Llun, yn yfed. Pan dynnwyd strwythur yr wythnos waith i ffwrdd, byddai’r yfed yn cynyddu. Roedd gwyliau’n broblem arbennig. Byddwn yn yfed yn y maes awyr ar unrhyw adeg er mwyn tawelu nerfau hedfan ; byddwn yn yfed amser cinio a pharhau’n araf drwy’r dydd, ac yn yfed bob dydd os oedd y gwyliau’n 2 ddiwrnod neu’n 2 fis. Doedd dim rheolaeth gennyf.
Ro’n i’n gallu ymdopi a rheoli ‘mywyd, yn llwyddo’n addysgol a chyda gyrfa. Byddai perthnasau’n mynd a dod wrth imi yrru pobol i ffwrdd, ond diolch i Dduw nid oedd fy iechyd, fy enw da na’m perthynas gyda ‘nheulu y tu hwnt i achubiaeth. Gan nad oeddwn yn yfwr dyddiol nac yn yfed yn y bore gyda chyflenwad cudd o alcohol yn y ty neu’r swyddfa, ni argyhoeddwyd fy ffrindiau na ‘nheulu o ‘nghaethiwed. Doedd gennyn nhw ddim dirnad o’r boen a’r cythrwfl mewnol ; fedren nhw ddim gweld tywyllwch fy enaid, yr anobaith a’r unigrwydd anioddefol ro’n i’n ei deimlo. Doeddwn i ddim am farw, ond doedd byw yn fawr o hwyl chwaith. Roedd yfed i reoli’r boen ddim yn gweithio mwyach a cheisiais gymorth. Does gen i fawr o ddiddordeb mewn dod i wybod am y rhesymau pam y gaethiwed a’r gwellhad, mae hynny i eraill eu hystyried. Mae’r ffeithiau’n syml, ro’n i’n arfer yfed ac ro’n i’n arfer bod yn anhapus. Dydw i ddim yn yfed nawr ac rwy’n profi llawenydd ac hapusrwydd. Wrthgwrs bod rhoi’r gorau i yfed a chanfod y llawenydd yn siwrne, siwrne i ganfod y fi go iawn, siwrne ysbrydol i ganfod y bachgen bach tu fewn yr oeddwn i wedi ei falu a’i esgeuluso, ei gosbi a’i gamdrin, a’i siomi mor ofnadwy. Gyda chymorth duw, dwi’n tyfu ac yn gwella. Y cyfan roedd yn rhaid imi ei wneud oedd derbyn reality a chofleidio’r ateb oedd ar gael imi. Roedd gen i broblem ddiod, roedd yn fy ngwneud yn anhapus. Ro’n i’n yfed gormod achos fedrwn i ddim stopio. Alla’ i byth a rheoli alcohol ; bydd yn fy lladd os af i’n agos ato eto felly gydag ewyllys duw, af i ddim yn agos ato eto. Ond mae pob diwrnod yn her i wneud beth sy’n rhaid imi ei wneud i aros ar y llwybr iawn, i gadw’m iechyd ysbrydol ac i gadw pethau’n syml. Rwy’n ceisio nawr i fod yn ffrind, cydweithiwr, brawd, mab, ewythr, gweithiwr sy’n dda a gwylaidd. Er bod fy nghaethiwed yn dweud wrthyf na fydda’ i byth yn un o’r rhain, mae gen i ffydd a gobaith y byddaf yn gwneud cynnydd dyddiol ym mhob agwedd.
|
 |
|