Ein storïau
Stori Paqula
Roedd fy nghwymp i i alcoholiaeth yn gychwyn 6 mlynedd o anhapusrwydd imi ac i ‘nheulu, oedd yn cynnwys plant ifanc iawn.
Ar y tu allan, doedd dim rheswm imi geisio dihangfa o fywyd mewn alcohol, gan mod i’n hapus yn briod heb anawsterau ariannol, roedd gen i ddau fachgen iach, ac ro’n i’n byw mewn ty hyfryd. Roedd y broblem tu mewn i ‘mhen.
Wrth edrych yn ol o bellter sawl blwyddyn wyrthiol o sobrwydd, gallaf weld mai fy anaefeddrwydd emosiynol oedd wrth wraidd popeth. Does neb i’w feio, dim ond cyfres o amgylchiadau wedi eu plethu’n fy anallu amlwg i dyfu i fyny. Ro’n i’n unig blentyn i rieni canol oed roddodd gartref cariadus a sefydlog, ond roedden nhw’n boddio pob un o’m chwantau. (Nawr mod i’n riant/nain fy hun, rwy’n gwybod pa mor ddychrynllyd yw’r dasg o fod yn riant). Yn unarddeg oed, fe’m gyrrwyd i ysgol breswyl cwfaint ger y mor, oherwydd fy asthma. Mewn gwrthgyferbyniad llwyr i’m rhieni, roedd y lleianod yn ddisgyblwyr llym, yn disgwyl safonau uchel –stoiciaeth, ymhlith pethau eraill, fel nad oedd neb byth byth yn cwyno, rhag i hynny gael ei weld fel arwydd dychrynllyd o wendid. Felly, tra’n anhapus iawn am y rhan fwyaf o’r amser, wnes i ddim dweud gair wrth neb.
Yn ymddangosiadol aeddfed, gyda addysg dda yn gefn imi, cefais waith yn y pendraw ym myd newyddiaduraeth, lle roedd y diwylliant o yfed yn gweddu i’r dim imi, gan mod i wedi dysgu mwynhau blas ac effaith alcohol, ond yn y cyfnod yma, dim ond yn gymdeithasol ro’n i’n yfed.
Priodais ddyn tyner, cwrtais a diwylliedig, gryn dipyn yn hyn na mi, a chyn hir ganwyd dau fab. Dyma pryd y cychwynodd y gaethiwed. Roedd fy ngwr yn gweithio oriau hir hir, ac roeddwn i ar fy mhen fy hun gyda’m plant, ac wedi diflasu, ac yn y dyddiau hynny nid oedd yn arferol i fenywod gael gyrfa A phlant. Amlygodd fy anaeddfedrwydd ei hun mewn hunan-ganolder a hunan-dosturi eithafol. Ar un adeg, roedd gan y ddau blentyn beswch y pas, a daeth fy ngwr a hanner potel o wisgi adre i “godi’n calonnau tra mae’r bechgyn yn sal” meddai’n ysgafn – druan ohono. Yfodd ef ddau wydraid tra gorffenais i weddill y botel, ac roedd hynny’n ddigon i ‘ngwthio dros y dibyn i ddibyniaeth. Does neb yn bwriadu datblygu i fod yn alcoholic ; yn syml, fe’m herwgipiwyd gan alcohol.
Er gwaethaf dyfodiad trydydd baban, a anwyd, diolch i’r drefn, yn ddianaf, er gwaethaf dirywiad yn safonau byw’r teulu, plant nerfus, gwr dagreuol, euogrwydd, galar, anobaith, ymlaen yr aeth fy mherthynas gyda’r botel, a minnau’n casau alcohol a fi fy hun i’r un graddau. Prin y gallaf gofio fy mlwyddyn olaf o yfed, ond tua’r diwedd, galwodd meddyg yn annisgwyl - ffrind yn yr ysgol breswyl gynt – ac roedd hi wedi ei dychryn gyda’r hyn welodd hi. “Ti’n marw!” meddai wrthyf, “ Dwi’n gwybod”, atebais, “Dwi i am i hynny ddod yn gyflym, dyna’i gyd”. Dyna ro’n i’n wirioneddol yn ei gredu : ro’n i’n argyhoeddedig na fyddwn i byth yn medru stopio yfed, ac y byddai’r teulu yn well hebof. Hi ddaeth o hyd i’r ganolfan driniaeth newydd ei hagor, Broadway Lodge, a ‘mherswadio i fynd am help.
Ar ol 3 mis o therapi dwys a chyfarwyddiadau llym i fynychu cyfarfodydd cyson o Alcoholigion Anhysbys, roeddwn yn betrus barod i wynebu’r byd unwaith eto. Fy atgyfodiad personol i oedd disgrifiad fy ngwr, ac yn wir, dyna brofodd y teulu cyfan. I’r un graddau a’r anhapusrwydd a ddioddefwyd, daeth ein llawenydd yn ddirwystr, a blodeuodd bywyd teuluol o’r newydd. Wrth ddilyn y rhaglen AA, mae sobrwydd, a – rhywfaint yn hwyr yn y dydd – aeddfedrwydd – wedi rhoi bywyd tu hwnt i bob breuddwyd imi.
|