
Cafodd llyfr cyntaf yr actor poblogaidd Wynford Ellis Owen yn yr iaith Saesneg, No Room to Live, ei lansio neithiwr yn y Deml Heddwch, Caerdydd. Mae’n llyfr hunangymorth sy’n onest ac yn ysgogi’r meddwl, yn deimladwy ond eto’n difrifoli.

Y gyflwynwraig deledu boblogaidd Angharad Mair oedd yn llywio’r lansiad, gyda darlleniadau o’r llyfr gan yr actorion Mark Lewis Jones - wyneb cyfarwydd am ei ymddangosiadau yn Con Passionate ac Y Pris, a John Pierce Jones sy’n enwog am chwarae Mr Picton yn C’mon Midffild. Cafwyd adloniant cerddorol gan y feiolinydd Heulwen Thomas a Phedwarawd Capel Bethlehem.
Llwyddiant ei hunangofiant, Raslas Bach a Mawr, a gyhoeddwyd yn 2004, a roddodd i Wynford y syniad o addasu’r llyfr ar gyfer cynulleidfa Saesneg. Fodd bynnag, mae No Room to Live wedi datblygu i fod yn fwy na hunangofiant am fywyd yr actor poblogaidd a’i frwydr bersonol gydag alcoholiaeth.
Fel prif weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill a chynghorydd profiadol ar ddibyniaeth, mae Ellis Owen wedi llwyddo i weddnewid ei fywyd ac wrth wneud hyn, wedi sylweddoli’r angen am lyfr hunangymorth gyda gwahaniaeth. Dyma oedd sail No Room to Live ac mae’n ddarllen hanfodol i bobl a theuluoedd sy’n ceisio ymdopi â phoen cymdeithas heddiw - lle mae alcoholiaeth a dibyniaeth ar gyffuriau yn ymddangos yn aml.

Efallai mai llyfr hunangymorth yw hwn, ond mae arddull naratif deniadol Ellis Owen yn gwneud y darllen yn brofiad cyffrous ac anorfod. Seilir y naratif ar hanesion - rhai doniol, rhai difrifol - wedi'u dylanwadu gan brofiadau'r awdur ei hun. Fel actor adnabyddus ac uchel ei barch, roedd dibyniaeth Ellis Owen ar alcohol yn newyddion a syfrdanodd y gymuned Gymraeg, yn enwedig y rhai oedd yn ei gysylltu â’r arwr Syr Wynff ap Concord y Bos yn y rhaglen deledu arloesol, Teliffant, o’r saithdegau.
Pris No Room to Live fydd £10, gyda’r holl elw yn cael ei roi gan Ellis Owen at elusen newydd wedi ei sefydlu gan Gyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill o’r enw 'Stafell Fyw Caerdydd / Living Room Cardiff. Bwriad y fenter elusennol newydd sbon hon yw sefydlu canolfan driniaeth ddydd, ddwyieithog am ddim yn y brifddinas fydd yn torri cylch dibyniaeth. Mewn amser, bydd y gwasanaeth yn cael ei ymestyn i drefi eraill ar draws Cymru.

Mae llwyddiant Ellis Owen yn concro ei ddibyniaeth ac adennill ei enw da o fewn y gymdeithas Gymreig, ar ac oddi ar y sgrin, wedi'i roi mewn sefyllfa unigryw i ysgrifennu'r llyfr hunangymorth hwn.
Esbonia Ellis Owen, “Mae alcoholiaeth a dibyniaeth ar gyffuriau, boed gyfreithlon neu anghyfreithlon, yn dinistrio bywydau. Mae’n llethr llithrig i anobaith a digalondid. Rydych yn mentro colli popeth, eich hunan-barch, eich cartref, eich teulu. Dwi’n gwybod achos dwi wedi bod yno. Mae fy llyfr, No Room to Live, yn canolbwyntio ar sut mae ail afael yn eich bywyd a darganfod hapusrwydd unwaith eto.

“Dydy’r daith i adferiad ddim yn un hawdd iawn. Mae angen penderfyniad ac ymroddiad, nerth a chefnogaeth. Mae fy llyfr yn un o lawer o’r ffyrdd sydd ar gael i helpu pobl ailadeiladu eu bywydau. Mae amrywiaeth o sefydliadau ar gael sy’n barod i gefnogi’r dioddefwr, gan gynnwys Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill. Er bod dioddefwyr yn gallu teimlo'n unig ac yn ddigalon, mae 'na obaith a chefnogaeth - golau ar ddiwedd y twnnel hir.
“Dwi’n falch iawn gallu dweud bod elw’r llyfr yn cael ei roi tuag at sefydlu canolfan driniaeth ddydd, ddwyieithog am ddim yng Nghaerdydd. Fe fydd 'Stafell Fyw Caerdydd / Living Room Cardiff yn cynnig help i unrhyw un sy’n cael anawsterau'n ymwneud ag alcohol, cyffuriau (ar bresgripsiwn neu anghyfreithlon), neu unrhyw ddibyniaeth arall megis problemau bwyta, bod yn gaeth i gariad a rhyw, gamblo a hunan-niwed. Bwriad y llyfr yw helpu pobl eraill i adennill eu bywydau.”
Dywedodd yr actor Mark Lewis Jones, “Roedd hi’n bleser cefnogi fy nghyd actor Wynford Ellis Owen wrth iddo lansio ei lyfr Saesneg cyntaf ac roedd yn fraint i mi ddarllen darnau o’i waith yn y digwyddiad.
“Mae No Room to Live yn sôn am adferiad Wynford o grafangau alcoholiaeth a’r frwydr a wynebodd ar y daith. Mae wedi'i ysgrifennu fel llyfr hunangymorth ac rwy’n siŵr y bydd yn ysbrydoliaeth i bobl eraill sy’n ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau. Mae’r llyfr yn dyst i’r ffaith bod 'na olau a gobaith ar ddiwedd y twnnel.”
Ychwanegodd yr actor John Pierce Jones, “Mae’n cymryd dewrder mawr i ysgrifennu llyfr fel hwn ac rwy’n falch iawn i gefnogi Wynford wrth iddo lansio No Room to Live. Mae’n gyfrol hynod o ddiddorol o siwrnai Wynford o ddibyniaeth i adferiad wedi ei ddweud mewn ffordd ddigri.
“Mae’r gyfrol yn bositif ac yn ysbrydoli ac yn gwneud adferiad yn reality i fwy o bobl ar draws y DU a thu hwnt. Mae’n estyn allan at alcoholigion, pobl sy’n gaeth i gyffuriau, a’u teuluoedd ac yn rhoi gobaith newydd iddynt fod 'na ffordd allan o un o’r afiechydon mwyaf annymunol sy’n effeithio ar ddynolryw.” |